Cym | Eng

Digwyddiad arall

Cynhadledd cenedlaethol y blynyddoedd cynnar a gofal plant 2026

Dyddiad

23 Medi 2026

Pris (aelod)

Am ddim

Pris (ddim yn aelod)

Am ddim

Trefnydd

Gofal Cymdeithasol Cymru

Lleoliad

Stadiwm Swansea.com, Abertawe

Ymunwch â Gofal Cymdeithasol Cymru i glywed gan arbenigwyr blynyddoedd cynnar, yn ogystal ag ymarferwyr o leoliadau fydd yn rhannu sut mae addasu’r theori i ymarfer dydd i ddydd. Bydd y diwrnod hefyd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer dysgu proffesiynol, myfyrio a rhwydweithio.

Bydd y gynhadledd yn cynnwys:

  • Ymarfer gwrth-wahaniaethu – archwilio sut y gellir gwreiddio ymarfer gwrth-wahaniaethu a gwrth-hiliaeth mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar, gan gynnwys gwrando ar brofiadau bywyd, ymarfer myfyriol, gweithio mewn partneriaeth a’r heriau o greu newid ystyrlon a chynaliadwy
  • Arweinyddiaeth a rheolaeth – edrych ar beth sy’n gwneud arweinyddiaeth effeithiol yn y sector a sut y caiff ei ddangos yn ymarferol, gan gynnwys yr effaith gadarnhaol ar gadw staff a’u lles
  • Cyflwyniad i fframwaith NYTH – cefnogi iechyd meddwl a lles babanod, plant a phobl ifanc
  • Lles – gwerthfawrogi a grymuso staff a phlant, a chreu amgylcheddau cadarnhaol lle mae pawb yn teimlo’n hapus, yn ddiogel ac yn saff.

Mae’r gynhadledd am ddim i fynychu ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors