Cym | Eng

Digwyddiad Chwarae Cymru

Polisi chwarae, ymchwil ac ymarfer: Cael pethau’n iawn i blant

Dyddiad

16/10/2025

Amser

9:00am - 4:30pm

Pris (aelod)

£75

Pris (ddim yn aelod)

£100

Trefnydd

Chwarae Cymru

Lleoliad

Gwesty'r Hilton, canol dinas Caerdydd

Mae adolygiad llenyddiaeth Chwarae a lles a gyhoeddwyd gan Chwarae Cymru yn pwysleisio bod cyfleoedd chwarae anffurfiol yn rhoi cyfle i blant gefnogi eu lles uniongyrchol tra’n adeiladu’n naturiol y sgiliau bywyd sy’n cyfrannu at ddeilliannau datblygiad tymor hir. Ynghyd â’r dystiolaeth rymus hon, beth allwn ni ei ddysgu oddi wrth yr hyn fydd plant yn ei ddweud wrthym am sut fyddan nhw’n chwarae?

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r sectorau chwarae a gwaith chwarae wedi sicrhau cynnydd sylweddol wrth greu amgylchedd chwarae-gyfeillgar ar gyfer plant, wedi ei gefnogi gan bolisi ac ymchwil arloesol. Mae angen inni feithrin a chynnal y cynnydd a’r momentwm hwn.

Ymunwch â ni yng nghynhadledd genedlaethol Chwarae Cymru i drafod sut allwn ni gynnal y momentwm hwn ac archwilio ffyrdd i ehangu ar ein gwaith i gyd, a chydweithio i ddarparu, hyrwyddo a gwarchod hawl plant i chwarae.

Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i gynadleddwyr:

  • glywed am farn plant ynghylch eu bodlonrwydd chwarae
  • myfyrio ar a rhannu arfer da am chwarae plant
  • cyfrannu at ystod eang o weithdai astudiaethau achos
  • rhwydweithio gyda chydweithwyr
  • ystyried ffyrdd i sicrhau bod polisi ac ymchwil yn cael eu rhoi ar waith er mwyn gwneud gwir wahaniaeth i blant a’u cyfleoedd i chwarae
  • dathlu safle Cymru wrth lunio tueddiadau byd-eang a syniadau am chwarae.

 

Pwy ddylai fynychu ?

Mae’r gynhadledd wedi ei hanelu at: swyddogion digonolrwydd chwarae, ymarferwyr gofal plant a gwaith chwarae, aelodau etholedig llywodraeth leol, a’r rheini sy’n ymwneud ag iechyd, addysg, teithio llesol, cynllunio cymunedol a thref.

 

Prif siaradwyr gwadd

  • Dawn Bowden, AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
  • Dr David Dallimore, ymchwilydd ac ymgynghorydd
  • Yr Athro Philip Jaffé, aelod o Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
  • Robyn Monro Miller, Llywydd yr International Play Association a Chymrawd Ymddiriedolaeth Winston Churchill.

Dysgwch fwy am ein prif siaradwyr

 

Prisiau cynadleddwyr

Archebwch eich lle heddiw:

  • Cefnogwyr yng Nghymru: £75
  • Cynadleddwyr o’r tu allan i Gymru: £100

 

Dyddiad cau ar gyfer archebion: 30 Medi 2025

 

Llety

Mae lleoliad ein cynhadledd, gwesty’r Hilton yng nghanol dinas Caerdydd, yn cynnig gostyniad o 15% ar y prisiau a hysbysebwyd i gynadleddwyr. I dderbyn y gostyngiad, defnyddiwch y côd PlayWalesOctober2025 wrth archebu ystafell.

 

 

 

Archebwch eich lle

I archebu eich lle, cwblhewch ac anfonwch y ffurflen archebu:

Please enable JavaScript in your browser to complete this form.
Manylion y cyfranogwr:
Ydych chi wedi darllen a deall y polisi archebu a chanslo, gan gynnwys yr amodau a thelerau?
Ydych chi'n Gefnogwr Chwarae Cymru yng Nghymru?
Manylion anfoneb
Manylion y person sy'n cwblhau'r archeb (os yw'n wahanol i'r cyfranogwr):

Anfonir yr anfoneb i’r cyfeiriad ebost yr ydych wedi ei gynnwys yn eich archeb.

£0.00
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors