Digwyddiad arall
Cyflwyniad i’r Fframwaith NYTH ar gyfer y Sector Gwirfoddol yng Nghymru
Dyddiad
6/10/2025
Amser
10:00am – 11:00am
Pris (aelod)
Am ddim
Trefnydd
Llywodraeth Cymru
Lleoliad
Ar-lein
Ydych chi’n rhan o sefydliad y trydydd sector yng Nghymru sy’n cefnogi babanod, plant, pobl ifanc neu eu teuluoedd?
Ymunwch â Llywodraeth Cymru am sesiwn ar-lein, rad ac am ddim i gael golwg manylach ar y Fframwaith NYTH – dull system gyfan sydd wedi’i gynllunio i drawsnewid cymorth iechyd meddwl a lles i fabanod, plant a phobl ifanc.
Mae gennych gyfle yn y digwyddiad hwn i wneud y canlynol:
- Dysgu am y fframwaith a’i ethos ‘dim drws anghywir’
- Darganfod sut mae’r fframwaith yn helpu sefydliadau fel eich un chi yn barod i ddarparu cymorth sy’n fwy cydgysylltiedig, ac sy’n canolbwyntio ar y plentyn
- Meithrin cysylltiadau ag eraill ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector sy’n defnyddio’r Fframwaith NYTH i ysgogi newid
- Myfyrio a gwella eich darpariaeth gwasanaeth eich hun, a chysoni eich arferion â’r penderfyniadau strategol sy’n cael eu gwneud ledled Cymru.
P’un a ydych yn weithiwr rheng flaen, yn rheolwr gwasanaeth, neu’n arweinydd strategol, bydd y sesiwn hon yn darparu’r dulliau ymarferol a’r ddealltwriaeth o’r newydd a fydd eu hangen arnoch i’ch helpu i roi babanod, plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth y byddwch yn ei wneud.