Cym | Eng

Digwyddiad arall

Cyflwyniad i ofal plant

Dyddiad

18/06/25, 16/07/25, 20/08/25, 11/09/25, 30/09/25, 07/10/25, 14/10/25, 12/11/25, 26/11/25, 02/12/25

Amser

9:45am - 3:00pm

Pris (aelod)

Am ddim

Trefnydd

Gofalwn Cymru

Lleoliad

Ar-lein

Mae’r cwrs undydd rhad ac am ddim hwn, a drefnir gan Gofalwn Cymru, yn rhoi trosolwg o weithio ym maes gofal plant a’r blynyddoedd cynnar. Mae’n cyflwyno meysydd craidd sydd eu hangen arnoch i ddechrau gweithio ym maes gofal plant, yn rhoi gwybodaeth am opsiynau gyrfa ac yn egluro pa rinweddau sydd eu hangen ar weithwyr.

Mae gan bob cwrs siaradwyr gwadd a llysgenhadon sy’n sôn am y realiti o weithio ym maes gofal plant a’r blynyddoedd cynnar.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd Gofalwn Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Gyrfa Cymru i’ch cefnogi wrth chwilio am waith a hyfforddiant. Pan fyddwch chi’n dechrau gweithio yn y sector, byddwch hefyd yn derbyn cymorth a hyfforddiant ychwanegol gan eich cyflogwr.

I weithio ym maes gofal plant, bydd angen i chi gael gwiriadau i sicrhau eich bod yn addas i weithio yn y sector. Bydd Gofaln Cymru yn eich helpu gyda’r rhain. Bydd hyn yn cynnwys rhywbeth o’r enw gwiriad System Datgelu a Gwahardd (DBS) i sicrhau eich bod yn gallu gweithio ym maes gofal plant.

Cynnwys y cwrs yn cynnwys:

  • rolau a chyfrifoldebau gweithwyr gofal plant a’r blynyddoedd cynnar
  • trosolwg o rolau swyddi a’u lleoliadau
  • hawliau plant
  • lles
  • gweithio mewn ffyrdd sy’n canolbwyntio ar y plentyn
  • chwarae
  • Yr iaith Gymraeg a chyfathrebu
  • iechyd a diogelwch
  • atal a rheoli heintiau
  • diogelu
  • Cymdeithas Broffesiynol Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar (PACEY) sy’n darparu gwybodaeth benodol am ddod yn Warchodwr plant
  • llysgenhadon
  • cyngor a chymorth i gael gwaith gan Gyrfa Cymru.

I fod yn gymwys i fynychu, rhaid i chi fod yn 18 oed a hŷn, byw yng Nghymru neu ar ei ffiniau a bod â’r hawl i weithio yn y DU.

Cynhelir y cwrs ar y dyddiadau canlynol, o 9:45am tan 3:00pm:

  • Dydd Mercher 18 Mehefin 2025
  • Dydd Mercher 16 Gorffennaf 2025
  • Dydd Mercher 20 Awst 2025
  • Dydd Iau 11 Medi 2025
  • Dydd Mawrth 30 Medi 2025
  • Dydd Mawrth 7 Hydref 2025
  • Dydd Mawrth 14 Hydref 2025
  • Dydd Mercher 12 Tachwedd 2025
  • Dydd Mercher 26 Tachwedd 2025
  • Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2025

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors