Digwyddiad arall
Cynhadledd a Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2026
Dyddiad
3 Hydref 2026
Amser
9:00am–3:30pm
Pris (aelod)
£40.00
Pris (ddim yn aelod)
£40.00
Trefnydd
Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
Lleoliad
Holiday Inn, Caerdydd
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn dathlu chwarter canrif o gefnogi, grymuso a hyrwyddo Clybiau Gofal Plant ar hyd a lled Cymru. Ymunwch â Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs am ddiwrnod arbennig o ddathlu, ysbrydoliaeth a chydnabyddiaeth wrth iddynt gynnal eu cynhadledd a’u seremoni wobrwyo wyneb yn wyneb gyntaf erioed ar gyfer y sector Gofal Plant All-Ysgol.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys:
- siaradwyr gwadd ysbrydoledig
- gweithdai diddorol a rhyngweithiol
- seremoni Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2026
- seremoni raddio ar gyfer dysgwyr sydd wedi cwblhau cymwysterau mewn gwaith chwarae;
- cyfleoedd i rwydweithio a dathlu gyda chydweithwyr a phartneriaid.