Digwyddiad arall
Climate Change and Play
Dyddiad
22/05/2024
Amser
4:30pm
Pris (aelod)
Am ddim
Pris (ddim yn aelod)
Am ddim
Trefnydd
International Play Association (IPA)
Lleoliad
Ar-lein
Bydd y digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim hwn yn cynnwys dau siaradwr rhyngwladol yn trafod agweddau ar newid hinsawdd a chwarae.
Bydd y siaradwr cyntaf, Dr. Mathilde Duflos yn trafod ei hymchwil ar sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar chwarae awyr agored rhwng plant a neiniau a theidiau. Wrth ymchwilio i chwarae awyr agored plant a neiniau a theidiau, un o’r prif bryderon a ddaeth i’r amlwg yw parhad chwarae awyr agored rhwng cenedlaethau pan ddaw newid hinsawdd yn her.
Bydd Breann Corcoran yn parhau â’r thema i drafod ei hymchwil ar sut mae newid hinsawdd yn diraddio iechyd plant. Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar effaith eithafion gwres ar blant a’i effaith ar chwarae awyr agored o safon. Bydd yn rhannu ei hymchwil PhD ar gysur thermol plant ac ymddygiadau chwarae awyr agored cysylltiedig mewn lleoliad cyn ysgol ac yn dangos sut y gall cysgod wedi’i ddylunio’n dda feithrin profiadau chwarae awyr agored o safon i blant ifanc.
Mae’r digwyddiad hwn yn hygyrch i aelodau’r Gymdeithas Chwarae Ryngwladol (IPA) yn unig. I ddod yn aelod o IPA Cymru Wales a chael mynediad i hwn a digwyddiadau eraill, ewch i: Aelodaeth IPA Cymru Wales.