Digwyddiad arall
Cynadledd ansawdd AGC (CIW) (Digwyddiad Saesneg)
Dyddiad
26/11/2024
Amser
5:30pm-8:30pm
Pris (aelod)
Am ddim
Trefnydd
Arolygaeth Gofal Cymru
Lleoliad
Ar-lein dros Teams
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC / CIW) yn cynnal ei chynadleddau ansawdd cyntaf ar gyfer darparwyr gofal plant a chwarae.
Cynhelir cynadleddau eleni ar-lein ar y dyddiadau ac amseroedd canlynol drwy Microsoft Teams:
- Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2024, 5:30pm – 8:30pm (digwyddiad Saesneg)
- Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2024, 5:30pm – 8:30pm (digwyddiad Cymraeg)
Fel rhan o nod AGC i wneud mwy i gefnogi lleoliadau ar eu taith i wella’n barhaus, bydd yr arolygiaeth yn cynnal y cynadleddau ansawdd blynyddol hyn i rannu enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol ac i fwrw ati gyda’n gilydd i ymdrin ag unrhyw faterion cyffredin sy’n codi ledled Cymru.
Bydd y rhain yn wahanol i’n digwyddiadau ar-lein i ddarparwyr ddwywaith y flwyddyn a bydd ganddynt agenda ac ymdeimlad gwahanol.
Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal gyda’r nos, er mwyn galluogi mwy o ddarparwyr i fod yn bresennol.
Bydd dolenni i ymuno yn cael eu hanfon at ddarparwyr cofrestredig maes o law.
Dewis Iaith
Mae AGC am gynnig y profiad gorau posibl i’r rhai ohonoch sy’n dod i’r digwyddiadau. Er mwyn gwneud hyn, bydd yr arolygiaeth yn cynnal digwyddiadau ar wahân ar gyfer pob iaith a bydd yn ceisio adborth ar ôl hynny i wybod sut brofiad cafodd fynychwyr.
Os oes gennych ragor o gwestiynau am y digwyddiadau hyn, cysylltwch â thîm cyfathrebu AGC.