Cym | Eng

Digwyddiad arall

Meithrin Gwydnwch: Deall Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs)

Dyddiad

1 Hydref 2026

Pris (aelod)

Gostyngiad 10%

Pris (ddim yn aelod)

£80

Trefnydd

Plant yng Nghymru

Lleoliad

Plant yng Nghymru

Mae’r cwrs hanner diwrnod ymarferol hwn gan Plant yng Nghymru wedi’i gynllunio i ddyfnhau dealltwriaeth cyfranogwyr o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs), trawma a gwydnwch, gan eich arfogi â’r wybodaeth i gefnogi unigolion yr effeithir arnynt gan niwed yn gynnar mewn bywyd yn well.

Drwy fynychu’r cwrs hwn, bydd cyfranogwyr yn:

  • cael dealltwriaeth glir o ACEs
  • dysgu am ddiffinio trawma, ei achosion, a sut y gall ymddangos mewn unigolion
  • archwilio sut mae ACEs a thrawma yn effeithio ar iechyd, lles a datblygiad
  • deall pam mae ymwybyddiaeth o ACEs yn bwysig yn eich rôl broffesiynol
  • dysgu am rôl gwydnwch wrth oresgyn adfyd
  • nodi ffactorau allweddol sy’n helpu i adeiladu a chryfhau gwydnwch
  • cynyddu ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth, strategaethau a rhaglenni Cymru sy’n cefnogi ymatebion i ACEs a thrawma.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc, neu oedolion, gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, gwasanaethau cymunedol neu gymorth ac unrhyw un sy’n awyddus i feithrin eu gwybodaeth am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ymarfer sy’n seiliedig ar drawma a gwydnwch.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors