Cym | Eng

Digwyddiad arall

Cyflwyniad i ddiogelu data ar gyfer y sector gwirfoddol

Dyddiad

03/12/2024

Amser

9.45am - 12.45pm

Pris (aelod)

£50

Pris (ddim yn aelod)

£72

Trefnydd

CGGC (WCVA)

Lleoliad

Ar-lein trwy Zoom

Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn cyflwyno gwybodaeth allweddol am ddeddfwriaeth Diogelu Data’r DU, gan gynnwys y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) ar gyfer y DU a’r UE a’r Deddf Diogelu Data 2018, gan roi ymwybyddiaeth o ddiogelu data a’i effaith ar eich rôl.

Mae’r GDPR yn cyflwyno set o ddeddfau sydd wedi’u dylunio i sicrhau bod y safonau uchaf o ddiogelu data wrth wraidd ein gweithrediadau. Bydd y cwrs hwn yn helpu’r rheini sy’n ymwneud â thrin gwybodaeth pobl i allu mabwysiadu’r arferion cydymffurfio hyn o fewn eu mudiad.

Canlyniadau dysgu

Erbyn diwedd y sesiwn byddwch yn gallu:

  • defnyddio terminoleg diogelu data allweddol yn hyderus
  • deall egwyddorion diogelu data
  • defnyddio’r wybodaeth i gyflawni’ch rôl mewn ffordd sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth
  • egluro sut i lunio hysbysiad preifatrwydd
  • disgrifio’r prif resymau pam mae elusennau wedi cael dirwyon gan y rheoleiddiwr

Pwy ddylai mynychu

Bwriedir y cwrs hwn i unrhyw aelod o staff sy’n trin data personol fel rhan o’u gwaith bob dydd. Gallai’r rhain fod yn arweinwyr diogelu data, ac unrhyw un sydd â diddordeb cyffredinol mewn diogelu data.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors