Digwyddiad arall
Adeiladu NYTH
Dyddiad
16 Mehefin 2026
Amser
10:00am – 11:10am
Pris (aelod)
Am ddim
Pris (ddim yn aelod)
Am ddim
Trefnydd
Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru
Lleoliad
Ar-lein
Adeiladu NYTH: cefnogi iechyd meddwl a llesiant mewn babanod, plant a phobl ifanc
Bydd y gweminar hwn yn helpu cyfranogwyr i ddeall fframwaith NYTH a sut mae’n helpu pawb sy’n ymwneud â bywyd plentyn i sicrhau fod y plentyn yn medru ffynnu. NYTH (rhoi Nerth, Ymddiried, Tyfu’n ddiogel, Hybu) yw sut mae pobl ifanc yn disgrifio’r ffordd dylai gofal iechyd meddwl a llesiant deimlo.
Mae’r gweminar hwn yn gyfle i:
- ddysgu beth yw NYTH a pham mae’n bwysig
- ystyried sut gall lleoliadau gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar ddefnyddio fframwaith NYTH
- derbyn canllawiau ar ddefnyddio teclyn hunan-asesu NYTH
- clywed am enghreifftiau bywyd go iawn o NYTH.
Mae’r digwyddiad hwn i bawb sy’n gweithio â phlant a phobl ifanc.