Cym | Eng

Polisi a deddfwriaeth chwarae

Ein polisïau

Mae’r adran hon yn manylu ar ein polisïau sefydliadol yn Chwarae Cymru.

Eich preifatrwydd

Mae Chwarae Cymru wedi ymrwymo i sicrhau preifatrwydd pawb sy’n defnyddio ein gwefan neu ein gwasanaethau. Darllenwch ein Polisi Diogelu Data i weld sut byddwn yn defnyddio a gwarchod y wybodaeth y byddwch yn ei darparu.

 

 

Mae Chwarae Cymru wedi ymrwymo i warchod eich gwybodaeth bersonol:

  • Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth yn ddiogel bob amser.
  • Byddwn ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ac mae ei hangen.
  • Pan roddwch eich gwybodaeth bersonol i ni, byddwn ond yn ei defnyddio at y diben hwnnw.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Mae Chwarae Cymru’n credu bod gan bawb hawl i gael eu trin â pharch ac urddas. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu pob un o’n gwasanaethau mewn modd teg a chyfiawn.

 

Mae Chwarae Cymru wedi ymrwymo i arferion cyflogaeth teg, diduedd a gwrthrychol ac amgylchedd gwaith sy’n rhydd rhag aflonyddu ac erledigaeth.

Gwrth-hiliaeth

Mae Chwarae Cymru yn ymrwymo i hybu agwedd goddef dim hiliaeth ym mhob rhan o’r mudiad. I sefyll yn erbyn hiliaeth a hyrwyddo gweithle fwy cynhwysol a chyfartal sy’n rhoi hawl i bob unigolyn yng Nghymru deimlo’n ddiogel, ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i gynnwys, mae Chwarae Cymru wedi arwyddo addewid Dim Hiliaeth Cymru.

 

Gofalu am yr amgylchedd

Mae Chwarae Cymru’n ceisio sicrhau ein bod yn rhedeg yr elusen mewn modd cynaliadwy.

 

Cwynion

Mae Chwarae Cymru’n anelu i ddarparu gwasanaethau o safon i bob un o’n defnyddwyr. Ond, os ydych yn anfodlon gyda’r modd y cawsoch eich trin neu gydag ansawdd ein gwasanaeth, cofiwch ddweud wrthym.

 

Cyfathrebu

Mae Chwarae Cymru’n anelu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i bawb sy’n dymuno cynnal eu busnes â ni trwy gyfrwng y Gymraeg, boed yn rhannol neu’n gyfan gwbl. Mae pob un o’n llythyrau cyffredinol a’n cyhoeddiadau ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors