Cym | Eng

Adolygiad llenyddiaeth

Chwarae a lles

Adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru.

Awduron

Dr Wendy Russell
Mike Barclay
Ben Tawil

Mae gan Wendy gysylltiad hirsefydlog, trwy Chwarae Cymru, gyda Dyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Llywodraeth Cymru, yn ei datblygiad, gan gynnal pedwar prosiect ymchwil a chyd-drosglwyddo rhaglenni datblygiad proffesiynol ar gyfer awdurdodau lleol.

 

Ers cychwyn y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, mae Ben a Mike wedi bod yn ymchwilio ac yn datblygu dulliau ar gyfer ‘cyflawni’ digonolrwydd chwarae ar lefel cymdogaeth, awdurdod lleol a chenedlaethol.

Adolygiad llenyddiaeth

Mae’r adolygiad llenyddiaeth yn archwilio’r cysylltiadau rhwng digonolrwydd cyfleoedd chwarae a lles plant. Mae’n canolbwyntio ar rôl chwarae mewn lles plant, patrymau chwarae plant, a chefnogaeth oedolion i chwarae plant.

 

Mae’r adolygiad yn tynnu’n bennaf ar ymchwil academaidd, ar draws ystod o ddisgyblaethau, ond mae hefyd yn tynnu ar lenyddiaeth broffesiynol, eiriolaeth ac ymarferydd ble fo’n briodol. Mae’r adolygiad yn canolbwyntio ar rôl chwarae mewn lles plant, patrymau chwarae plant, a chefnogaeth oedolion i chwarae plant.

Lawrlwytho’r adolygiad llenyddiaeth

Crynodeb

Mae’r crynodeb yn cynnwys gwybodaeth am gwmpas ac arddull yr adolygiad llenyddiaeth, yn ogystal â throsolwg a darganfyddiadau o bob un o benodau’r adolygiad. Mae hefyd yn cyflwyno cynnig yr awduron am ddull galluogrwydd perthynol tuag at les plant drwy gamau gweithredu i greu amodau sy’n cefnogi chwarae.

Lawrlwytho’r crynodeb

Papur briffio

Mae’r papur briffio yn cyflwyno ein hadolygiad llenyddiaeth ac mae’n cynnwys gwybodaeth am ddatblygiadau diweddar mewn ymchwil plentyndod a chwarae, sut mae chwarae’n cyfrannu at les, yn ogystal â chwarae plant heddiw. Nid yw’n cynnwys crynodeb hollgynhwysol o ganfyddiadau’r adolygiad.

Lawrlwytho’r papur briffio

Cefndir

Cwblhawyd yr adolygiad llenyddiaeth, a gomisiynwyd gan Chwarae Cymru, 10 mlynedd ers cychwyn y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a thra bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ei Adolygiad Gweinidogol o Chwarae. Bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn yr adolygiad llenyddiaeth yn hysbysu’r gwaith parhaus hwn.

 

Cyflawnwyd y mwyafrif o’r ymchwil ar gyfer yr adolygiad rhwng Ebrill 2021 ac Ionawr 2023 ac mae’n adlewyrchu’r hyn oedd ar gael ar y pryd.

Dywed Chwarae Cymru

‘Rydym i gyd yn gwybod bod chwarae’n hollbwysig i les plant – gallwn ddiolch i’r awduron Wendy, Mike a Ben am gynhyrchu’r adolygiad mwyaf manwl a chynhwysfawr o’r dystiolaeth gyfredol o bwysigrwydd chwarae, gan ganolbwyntio ar y cyd-destun polisi yma yng Nghymru. O ystyried hanes Llywodraeth Cymru wrth fabwysiadu’r polisi chwarae cenedlaethol cyntaf erioed, ac yn fwy diweddar deddfu dyletswydd gyfreithiol gyntaf y byd ar gyfer chwarae, nid yw ond yn briodol ei bod wedi darparu cyllid i alluogi’r ymchwil hwn i ddigwydd.

Mae’r adolygiad yn dwyn ynghyd ganfyddiadau ymchwil hollbwysig ac yn dangos cymhlethdod chwarae a’r her sy’n ein hwynebu wrth gesio ei groesawu’n ystyrlon o fewn persbectif polisi. Mae gan y cysyniad dull galluogrwydd perthynol sy’n dod i’r amlwg y potensial i ddarparu model i’n galluogi’n well i symud y tu hwnt i’r egwyddor sefydledig o hawl plant i chwarae tuag at ymateb cymdeithasol effeithiol a fydd yn cynyddu cyfleoedd plant i chwarae yn sylweddol. Nid oes gennym unrhyw amheuaeth y bydd Chwarae a lles yn llywio ein gwaith parhaus sy’n ymwneud â’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a’r datblygiadau cyfredol a nodwyd yn yr Adolygiad Gweinidogol o Chwarae.’

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors