Cym | Eng

Swyddi Sector

Rheolwr Cymru Ifanc

Closing date

10/02/2025

Mudiad: Plant yng Nghymru
Lleoliad: Hybrid – gweithio o adref ac yn y swyddfa
Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos
Cyflog: £40,800 y flwyddyn
Dyddiad cau: 10 Chwefror 2025
Dyddiad y cyfweliad: 18 Chwefror 2025

Pwrpas y rôl hon yw i rheoli ac arwain tîm Cymru Ifanc. Byddwch yn gyfrifol am gyflawniad gweithredol a chydymffurfio â chontractau rhaglen Cymru Ifanc a ariennir gan Lywodraeth Cymru a phrosiectau cyfranogiad ychwanegol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ar ddatblygu partneriaethau cadarnhaol gydag ymarferwyr plant a phobl ifanc ar draws Cymru i sicrhau ymgysylltiad â gweithgareddau Cymru Ifanc.

Byddwch yn rheolwr llinell ar weithwyr cyfranogi Cymru Ifanc, gan gynnwys yr uwch swyddog. Byddwch yn adrodd i’r Cyfarwyddwr Cyflawni, ac yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws timau Cymru Ifanc, Partneriaethau a Pholisi.

Mae profiad sylweddol o reoli rhaglenni neu wasanaethau ieuenctid yn hanfodol. Bydd gennych hefyd wybodaeth a dealltwriaeth ragorol o ddulliau a thechnegau ar gyfer cyfranogiad ac ymgysylltiad plant a phobl ifanc, ac o Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors