Swyddi Sector
Cynghorydd Polisi
Closing date
01-12-2023
Mudiad: Comisiynydd Plant Cymru
Lleoliad: Gweithio hybrid – Port Talbot ac o bell
Oriau gwaith: 28 awr yr wythnos, cyfnod penodol am 12 mis
Cyflog: £25,968 y flwyddyn (cyflog gwirioneddol)
Dyddiad cau: 1 Rhagfyr 2023
Dyddiad cyfweliad: 8 Ionawr 2024
Pwrpas y rôl hon yw gweithio fel rhan o dîm Polisi a Materion Cyhoeddus y Comisiynydd. Byddwch yn dadansoddi ac yn dylanwadu ar bolisi ac arfer yn Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a chyrff cyhoeddus eraill. Byddwch yn monitro eu heffaith ar les plant, pobl ifanc a theuluoedd ar lefel genedlaethol a lleol, gan ystyried safbwyntiau plant a phobl ifanc.
Byddwch yn cymryd cyfrifoldeb am feysydd gwaith penodol sy’n ymwneud â themâu polisi, ymateb i ymgynghoriadau’r llywodraeth a hyrwyddo hawliau plant yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ennyn hyder gydag amrywiaeth o randdeiliaid o blant a phobl ifanc i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar y lefel uchaf. Bydd gennych hefyd ddealltwriaeth fanwl o faterion polisi ac ymarfer sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc.