Llyfrgell adnoddau
Meddwl am rannau rhydd mewn ysgolion
Pwnc
Taflen wybodaeth
Dyddiad cyhoeddi
01.09.2020
Darllen yr adnodd
Awdur: Chwarae Cymru
Dyddiad: Medi 2020
Mae’r daflen wybodaeth hon yn anelu i ddarparu cyngor i ymarferwyr yn y sector addysg am ddefnyddio deunyddiau chwarae rhannau rhydd. Mae’n edrych ar ddefnyddio chwarae rhannau rhydd yn ystod amser chwarae ac yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’n cyflwyno ystod eang o ymchwil i ymyriadau rhannau rhydd yn ystod amser chwarae yn ogystal ag adrodd ar ganfyddiadau o astudiaeth amser cinio benodol. Mae’n cyflwyno enghreifftiau a chynghorion ar sut y mae defnyddio a darparu rhannau rhydd mewn lleoliad ysgol yn cefnogi dysg dan arweiniad y plentyn. Mae’r daflen wybodaeth hefyd yn cynnwys atodiad defnyddiol sy’n amlinellu ymchwil ar sut y mae chwarae’n cefnogi dysg, datblygiad, gweithgarwch corfforol, iechyd a lles plant.