Archwiliwch
Buon yn dathlu Wythnos Addysg Oedolion 2024 (9 – 15 Medi) trwy rannu adnoddau, gwybodaeth a digwyddiadau defnyddiol ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn bod yn weithiwr chwarae neu ehangu eu gwybodaeth am waith chwarae.
Fe welwch chi amrywiaeth o adnoddau ar ein gwefan sy’n ymdrin â phob agwedd ar chwarae a gwaith chwarae. Dyma ein dewisiadau i’ch helpu i ddysgu mwy a datblygu eich gyrfa gwaith chwarae:
- Cymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru – llyfryn sy’n cynnwys trosolwg o’r cymwysterau sydd ar gael
- Canllawiau gwaith chwarae – ar gael i’w lawrlwytho a’u archebu mewn print am ddim i’r rhai sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru (am dâl postio bychan)
- Cynhadledd genedlaethol blynyddol Chwarae Cymru – cyfle datblygiad proffesiynol parhaus gwych
- Fideos Elfennau Hanfodol Gwaith Chwarae – fideos byr ar amrywiaeth o bynciau, wedi’u ffilmio yn ystod y cyfnod clo
- Dyma pam mae chwarae mor bwysig – wedi ei ffilmio mewn lleoliadau chwarae ar draws Cymru, mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd chwarae a gwaith chwarae.
I ddysgu mwy am ba gymwysterau a hyfforddiant sydd eu hangen arnoch, ewch i’n tudalen Cymwysterau a hyfforddiant.