Archwiliwch
Mae Gofalwn Cymru wedi lansio ymgyrch i daflu goleuni ar y proffesiynau gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar.
Cynhelir yr ymgyrch rhwng 5 a 25 Awst 2024 a’i nod yw codi ymwybyddiaeth am yrfaoedd yn y sectorau, llwybrau i wahanol broffesiynau megis gwaith chwarae, a chyfleoedd gwaith sydd ar gael.
Bydd yr ymgyrch yn rhannu straeon ar draws y cyfryngau cymdeithasol ac yn dysgu am yr amrywiaeth o rolau sydd ar gael. Bydd hefyd yn edrych ar ba werthoedd a rhinweddau sydd eu hangen i weithio yn y sector.
Cefnogir yr ymgyrch gan Mudiad Meithrin, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, Pacey a Chwarae Cymru.