Archwiliwch
Mae Play England wedi cyhoeddi taflen wybodaeth newydd gyda’r nod o gefnogi mudiadau gofal plant a chwarae i wella eu strategaethau recriwtio a chadw.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am sut y gall mudiadau ddod yn ‘gyflogwr o ddewis’, gyda’r gallu i ddenu a chadw’r ymgeiswyr gorau.
Mae’r daflen wybodaeth yn esbonio pam mae rhai cyflogwyr yn llwyddo i recriwtio a chadw, a sut y gall mudiadau chwarae fanteisio ar farchnad sy’n newid.
Ysgrifennwyd y daflen wybodaeth gan Imogen Edmunds o ymgynghoriaeth adnoddau dynol arbenigol, Redwing Solutions.