Cym | Eng

Newyddion

Ymchwiliad yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu strategaeth chwarae genedlaethol ar gyfer Lloegr

Date

12.03.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae ymchwiliad y Raising the Nation Play Commission wedi cyhoeddi adroddiad interim ar gyflwr chwarae yn Lloegr ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu strategaeth genedlaethol i adfer chwarae.

Mae’r ymchwiliad blwyddyn o hyd yn archwilio pwysigrwydd chwarae i les plant a pham fod plant yn chwarae llai yn Lloegr. Mae’r adroddiad yn amlygu’r rhwystrau sylweddol sy’n atal plant yn Lloegr rhag chwarae – gan gynnwys amseroedd chwarae byrrach mewn ysgolion, cau meysydd chwarae, pryderon am draffig a diogelwch, toriadau i gyllidebau parciau a chyfleusterau chwarae, a thwf diwylliant gwrth-chwarae ‘Dim Gemau Pêl’.

Mae’r adroddiad interim yn gwneud sawl argymhelliad sy’n gosod y sylfeini ar gyfer strategaeth chwarae ar gyfer Lloegr, a fydd yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU yn adroddiad terfynol y Comisiwn ym mis Mehefin.

Er bod ymchwiliad y Raising the Nation Play Commission yn canolbwyntio ar Loegr, darparodd Chwarae Cymru dystiolaeth yn ystod y cam ymchwiliad.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors