Archwiliwch
Dywedodd mwy na hanner o lleoliadau blynyddoedd cynnar fod staff yn gweithio dwy swydd gyda chyflog isel fel y rheswm tebygol, yn ôl arolwg a gomisiynwyd gan Cwlwm.
Cafwyd 362 o ymatebion i’r arolwg o ar draws y 22 awdurdod lleol ac fe’i cynhaliwyd gan Arad Research.
Adroddwyd hefyd bod recriwtio a chadw yn heriol, gyda 54% o ddarparwyr angen recriwtio gweithwyr yn 2021 oherwydd ymadawiadau.
Wrth ymateb i’r canlyniadau, dywedodd Cwlwm – sy’n consortiwm o bum mudiad gofal plant arweiniol yng Nghymru:
‘Bydd Cwlwm yn dal i gyflwyno’r achos fod gofal plant yn sylfaen bwysig i deuluoedd ac i’r economi yng Nghymru, yn cael ei chydnabod fel rôl gweithiwr hanfodol er mwyn i blant a Chymru ffynnu.
‘Bydd Cwlwm yn eiriol dros fuddsoddiad a chyllid i gynyddu cyflogau ar draws y sector ac i ymestyn mynediad i ddarpariaeth ar draws Cymru.’