Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar ddiogelu plant ac oedolion yng Nghymru a’r cod ymarfer diogelu.
Argymhellodd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol y dylid gosod dyletswydd i adrodd am achosion o gam-drin plant yn rhywiol ar rai unigolion – ‘y rhai dan fandad i roi adroddiad’ – yn hytrach nag ar sefydliadau.
Penderfynnodd yr ymchwiliad y dylid dynodi’r bobl ganlynol yn ‘rhai dan fandad i roi adroddiad’:
- unrhyw berson sy’n gweithio mewn gweithgaredd a reoleiddir mewn perthynas â phlant (o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, fel y’i diwygiwyd)
- unrhyw berson sy’n gweithio mewn swydd o ymddiriedaeth (fel y’i diffinnir o dan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003, fel y’i diwygiwyd)
- swyddogion yr heddlu.
Mae’r arolwg yn ceisio deall yr hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd o ran dyletswyddau presennol i adrodd am blant ac oedolion. Mae’n ystyried goblygiadau gosod dyletswyddau adrodd mandadol ar unigolion neu roi ar waith fesurau amgen ar eu cyfer.
Mae’r arolwg hefyd yn ceisio barn ar ar y cod ymarfer diogelu, a gyhoeddwyd yn rhan o Diogelu yng Nghymru.
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 16 Mehefin 2025