Archwiliwch
Mae’r Raising the Nation Play Commission, ymchwiliad annibynnol i bwysigrwydd chwarae plant a sut y gellir ei adfer yn Lloegr, wedi cyhoeddi ei adroddiad terfynol.
Mae Everything to Play For: A Plan to Ensure Every Child in England Can Play yn galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu Strategaeth Chwarae Genedlaethol ar gyfer Lloegr. Mae’n rhybuddio bod toriadau i glybiau a meysydd chwarae, ffyrdd prysurach, ac ofnau ynghylch diogelwch wedi gadael plant yn Lloegr â llai o leoedd diogel i chwarae.
Lansiwyd Raising the Nation Play Commission ym mis Mehefin 2024. Fe’i cadeirir gan yr entrepreneur a’r awdur Paul Lindley OBE, mewn partneriaeth â’r Farwnes Anne Longfield CBE, Cadeirydd Gweithredol a Chyd-sylfaenydd y Centre for Young Lives.