Cym | Eng

Newyddion

Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2025

Date

17.09.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru, a drefnir gan Lywodraeth Cymru. Bellach yn eu 12fed blwyddyn, mae’r gwobrau’n cydnabod llwyddiannau eithriadol arwyr cyffredin di-glod, unigolion adnabyddus, mudiadau, cwmnïau, a grwpiau o bob rhan o Gymru ar draws 11 categori.

Gall unrhyw un gynnig enwebiad ar gyfer y gwobrau, a derbynnir hunan-enwebiadau.

Y categorïau ar gyfer 2024-2025 yw:

  • Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Arwr Cymunedol (newydd ar gyfer 2025)
  • Busnes
  • Ceidwad yr Amgylchedd
  • Chwaraeon
  • Dewrder
  • Diwylliant
  • Gwasanaethu’r Cyhoedd (newydd ar gyfer 2025)
  • Gwirfoddoli (newydd ar gyfer 2025)
  • Person Ifanc
  • Gwobr Arbennig y Prif Weinidog

Pwyllgor Ymgynghorol Gwobrau Dewi Sant sy’n dewis y teilyngwyr yn y 9 categori cynt.

Prif Weinidog Cymru sy’n dewis yr enillydd ym mhob categori.

Cyflwynir y gwobrau mewn seremoni ym mis Mawrth 2025.

Dyddiad cau ar gyfer enwebu: 25 Hydref 2024

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors