Archwiliwch
Mae enwebiadau ar agor ar gyfer y Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol blynyddol, sy’n cydnabod ac yn dathlu rôl werthfawr gweithwyr chwarae, gwirfoddolwyr a rheolwyr wrth gefnogi chwarae plant.
Trefnir y gwobrau gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. Croesewir enwebiadau gan blant, rhieni a gofalwyr, gweithwyr awdurdodau lleol, cynrychiolwyr eraill o CWLWM a gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi’r sector, yn ogystal â chlybiau gofal plant all-ysgol a gweithwyr chwarae eu hunain.
Y 10 categori gwobrau yw:
- Gweithiwr chwarae y flwyddyn (unigolyn)
- Clwb gofal plant allysgol y flwyddyn (clwb)
- Dysgwr y flwyddyn (unigolyn)
- Ymroddiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus (clwb)
- Hyrwyddwr chwarae (clwb)
- Hyrwyddwr iaith Gymraeg (clwb)
- Hyrwyddwyr cynhwysiant (clwb)
- Hyrwyddo eiriolwr amrywedd cadarnhaol (clwb)
- Cefnogi llesiant staff (rheolwr, perchennog, arweinydd chwarae neu bwyllgor)
- Gwobr gwirfoddolwr
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni a chynhadledd ar-lein ar 12 Mawrth 2025.
Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: 31 Ionawr 2025.