Archwiliwch
Mae Scope, elusen cydraddoldeb anabledd yng Nghymru a Lloegr, yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn cronfa meysydd chwarae cynhwysol gwerth miliynau o bunnoedd. Mae Scope yn gofyn i gefnogwyr yng Nghymru a Lloegr lofnodi llythyrau agored sy’n benodol i’r gwledydd, sydd wedi’u cyfeirio at y llywodraethau priodol.
Mae Scope yn galw ar i bob plentyn gael cyfle cyfartal i chwarae. Ar hyn o bryd, mae plant anabl yn wynebu rhwystrau, gan gynnwys diffyg offer chwarae cynhwysol a hygyrch.
Yn y llythyr agored at Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, dywed Mark Hodgkinson, Prif Weithredwr Scope:
‘Dylai pob plentyn gael mynediad cyfartal i feysydd chwarae, ac mae angen cymorth y Llywodraeth i wneud hynny. Dyna pam mae Scope yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno Cronfa Cae Chwarae Cynhwysol newydd gwerth £7 miliwn. Bydd y gronfa hon yn cael ei defnyddio gan gynghorau i greu meysydd chwarae cynhwysol lle gall pob plentyn, boed yn anabl neu nad yn anabl, chwarae a ffurfio atgofion sy’n para am oes.’