Archwiliwch
Mae The Phoenix Way, a arweinir gan The Ubele Initiative ac a gefnogir gan Global Fund for Children, yn fenter rhoi grantiau sydd â’r nod o drawsnewid cymunedau Du a lleiafrifol ar sail hil yn y DU. Mae’r mudiad yn cynnig grantiau rhwng £30,000 a £50,000 ar gyfer mudiadau a phrosiectau cymunedol yng Nghymru a Lloegr sy’n cefnogi plant a phobl ifanc.
I fod yn gymwys, rhaid i brosiectau fodloni’r meini prawf canlynol:
- cael eu harwain gan gynrychiolwyr cymunedau Du a/neu lleiafrifol ar sail hil a gweithio o fewn cymunedau Du a/neu lleiafrifol ar sail hil
- gydag incwm blynyddol o £150,000 y flwyddyn neu lai
- bod yn cynnig prosiect sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed neu iau
- bod yn cynnig prosiect sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl mawr o ddod yn rhan o drais.
Bydd y gronfa yn cefnogi amrywiaeth o grwpiau, gan gynnwys mudiadau gwirfoddol neu gymunedol anghofrestredig, elusennau cofrestredig, cwmnïau di-elw, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol (CIC), a Sefydliadau Corfforedig Elusennol (CIO).
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 3 Rhagfyr 2023.