Archwiliwch
Mae The Fore yn cynnig grantiau o hyd at £30,000 i elusennau bach sydd wedi’u cofrestru yn y DU, yn enwedig mudiadau llawr gwlad sy’n gweithio gyda chymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.
Gellir lledaenu’r cyllid dros un i dair blynedd, ac nid oes unrhyw gyfyngiadau ar sut y caiff ei ddefnyddio. Mae’r rhaglen grant yn agored i elusennau cofrestredig, sefydliadau corfforedig elusennol, cwmnïau budd cymunedol (CICs), neu gymdeithasau budd cymunedol.
Gall mudiadau fod wedi’u lleoli mewn unrhyw leoliad o fewn y DU a gweithredu mewn unrhyw sector, ond rhaid iddynt fod â refeniw blynyddol o lai na £500,000.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw 31 Gorffennaf 2024 (12:00pm).