Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Ariannu

Ariannu: Grantiau gwyliau i blant

Date

08.06.2023

Category

Ariannu

Ariannu: Grantiau gwyliau i blant

Archwiliwch

Pwrpas y rhaglen Grantiau Gwyliau yw rhoi mynediad i deithiau hamdden neu wyliau i grwpiau o blant sy’n profi anfantais neu sydd ag anableddau. Yn benodol, mae gan drefnwyr y cynllun ddiddordeb mewn cyfrannu at deithiau na fyddai’n digwydd heb y cyllid hwn.

Mae ysgolion, grwpiau ieuenctid, mudiadau nid-er-elw ac elusennau sydd wedi’u lleoli yn y DU yn gymwys i wneud cais. Gellir gwneud ceisiadau am grantiau rhwng £500 a £2,750 tuag at un daith, a allai fod yn daith undydd neu daith breswyl o hyd at saith diwrnod. Gallai hyn fod mewn lleoliad cefn gwlad neu ddinas ond yn ddelfrydol dylai fod y tu allan i ardal gyfagos y plant.

Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau sydd o fudd i blant sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y DU.

Mae’r dyddiadau anfon cais yn amrywio yn dibynnu pryd mae’r teithiau neu wyliau yn digwydd:

  • Ar gyfer teithiau rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2023, derbynnir ceisiadau o 8 Mai i 18 Awst 2023
  • Ar gyfer teithiau rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2023, derbynnir ceisiadau 7 Awst i 17 Tachwedd 2023.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors