Archwiliwch
Mae’r Co-op yn cynnig grantiau i grwpiau dielw yn y DU neu Ynys Manaw, sydd eisiau ariannu prosiect sydd o fudd i’w cymuned leol.
Rhaid i’r prosiect gwrdd ag un o’r nodau canlynol:
- dod â phobl ynghyd i gael mynediad at fwyd
- helpu i wella lles meddwl pobl
- creu cyfleoedd i bobl ifanc gael eu clywed a gwneud gwahaniaeth
- helpu pobl i achub ac adfer byd natur neu i daclo newid hinsawdd.
Mae uchafswm y cyllid y gall mudiadau ymgeisio amdano ar gael ar gais. Bydd y Co-op yn gweithio gydag ymgeiswyr llwyddiannus am gyfnod o 12 mis.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 11 Mehefin 2023