Archwiliwch
Mae ffrwd ariannu Costau Craidd Plant mewn Angen yn cefnogi gwariant sefydliadol a gweinyddol hanfodol elusennau a mudiadau nid-er-elw sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed neu iau yn y DU.
Gellir gwario’r cyllid Core Costs ar weithrediadau canolog o ddydd i ddydd mudiadau. Gallai’r rhain gynnwys:
- rheolaeth a gweinyddiaeth
- adnoddau dynol a chyflogres
- costau swyddfa gyffredinol
- cyfrifeg ac archwilio
- cyfathrebu ac allgymorth
- monitro, gwerthuso a dysgu
- costau llywodraethu, rheoleiddio a chydymffurfio.
Bydd y bobl a’r mudiadau sy’n gymwys ar gyfer y gronfa yn rhai sy’n:
- gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed ac iau
- gweithio yng nghanol eu cymunedau, yn enwedig ar adegau o argyfwng
- rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth a wnânt, o ddylunio i gyflenwi
- mynd i’r afael â’r heriau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, gan feithrin eu sgiliau a’u gwytnwch
- grymuso plant a phobl ifanc, ac ymestyn eu dewisiadau mewn bywyd
- yn awyddus i barhau i ddysgu am a datblygu eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc
- wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc.
Gall ymgeiswyr i’r rhaglen hon wneud cais am grantiau am hyd at dair blynedd. Nod trefnwyr y cynllun yw gwneud penderfyniadau cyflymach am grantiau o £15,000 neu lai y flwyddyn.
Nid oes cyfyngiad amser ar geisiadau i’r cynllun grant hwn.