Archwiliwch
Cyhoeddwyd adolygiad annibynnol o’r gweithlu gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar (CPEY) ar ran Llywodraeth Cymru yng Ngorffennaf 2022.
Prif nod yr adolygiad oedd rhoi barn annibynnol i lywio camau gweithredu a chamau nesaf Llywodraeth Cymru i gofrestru’r gweithlu CPEY yn broffesiynol.
Mae tair thema allweddol i’r canfyddiadau:
- diffinio’r gweithlu a phwy ddylai gael eu cynnwys mewn cofrestrfa
- elfennau ymarferol cofrestrfa
- cymwysterau a datblygiad proffesiynol parhaus.
Cafodd yr adolygiad ei gynnal gan Government Social Research (GSR). Mae’n cynnig argymhellion a nodir mewn tri cham i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth fwrw ymlaen â chofrestriad proffesiynol y gweithlu CPEY yng Nghymru.