Archwiliwch
Fel rhan o gyfres Mater y Mis Comisiynydd Plant Cymru mae plant ledled y wlad wedi dweud eu dweud ar amser chwarae yn yr ysgol, gyda 95% yn dweud bod amser chwarae yn bwysig a 96% yn mwynhau eu hamser chwarae.
Dengys canfyddiadau Amser Egwyl/Chwarae – Arolwg Ciplun o Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru mai treulio amser gyda ffrindiaau a chael egwyl o’r dosbarth oedd yr atebion mwyaf cyffredin a roddwyd gan y plant a’r arddegwyr pan ofynnwyd iddynt pam fod amser chwarae yn bwysig. Rhoddwyd atebion tebyg pan ofynnwyd beth yr oeddent yn ei fwynhau am amser chwarae. I fwynhau eu hegwyl, roedd y plant sydd ddim yn mwynhau amser chwarae eisiau mwy o amser a mwy o bethau i’w wneud.
Dywedodd bron i hanner y plant a gymrodd ran yn yr arolwg eu bod weithiau’n gorfod colli amser chwarae, fel arfer oherwydd eu bod heb orffen gwaith neu o ganlyniad i ymddygiad gwael. Roedd colli amser chwarae yn gwneud i’r plant deimlo’n drist, yn ddig ac yn rhwystredig.
Denodd yr arolwg, a gynhaliwyd ym mis Mai 2024, 1,290 o ymatebion gan blant ac arddegwyr hyd at 17 mlwydd oed. Cymrodd 1,020 o blant ychwanegol ran mewn grwpiau, gydag athrawon a gweithwyr ieuenctid yn cyflwyno crynodeb o’u barn. Gyda’i gilydd, cafodd plant ac arddegwyr o 21 awdurdod lleol ar draws Cymru ddweud eu dweud.
Pan holwyd am y rhwystrau oedd yn eu hatal rhag darparu’r amser chwarae sydd ei angen ar blant, soniodd athrawon am ddiffyg adnoddau ac amser, a phwysau yn ymwneud â chyflwyno’r cwricwlwm.