Cym | Eng

Newyddion

Barratt Redrow yn addo blaenoriaethu mannau chwarae cynhwysol a hygyrch

Date

09.07.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae adeiladwr tai, Barratt Redrow, wedi cyhoeddi y bydd yn blaenoriaethu creu mannau chwarae cynhwysol a hygyrch o fewn ei ddatblygiadau ledled y DU i sicrhau y gall mwy o blant chwarae y tu allan.

Mae’r addewid yn dilyn ymchwil a gomisiynwyd gan yr adeiladwr tai a ddatgelodd fod mwy na chwarter y rhieni (27%) a holwyd yng Nghymru wedi gweld plant ag anableddau corfforol neu niwrolegol yn cael eu heithrio o feysydd chwarae.

Dangosodd yr arolwg o dros 2,000 o rieni ar draws y DU fod bron i draean (30%) o atebwyr yng Nghymru yn dweud nad yw mannau chwarae hygyrch yn eu cymuned yn diwallu anghenion eu plant. Dywedodd rhieni hefyd mai’r pellter cyfartalog i faes chwarae sy’n diwallu anghenion eu plentyn yw 3.74 milltir.

Gwnaeth y rhieni sylwadau ar ba mor fuddiol oedd chwarae yn yr awyr agored i’w plentyn, gyda 60% yn dweud bod chwarae wedi cael effaith gadarnhaol ar iechyd corfforol plant. Adroddodd mwy na 40% fod diffyg chwarae yn yr awyr agored yn effeithio ar frwdfrydedd, ffitrwydd a gallu plant i wneud ffrindiau.

Mae Barratt Redrow wedi dweud y bydd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc i ddylunio mannau chwarae sy’n diwallu anghenion y gymuned leol lle bo modd. Mae’n amcangyfrif y gallai’r cynllun ddarparu hyd at 100 o fannau chwarae cynhwysol a hygyrch newydd bob blwyddyn ar draws y DU i rieni a phlant eu mwynhau.

Dywed Chwarae Cymru:

‘Mae plant o bob oedran yn dweud yn gyson bod chwarae a chwrdd â’u ffrindiau yn bwysig iddyn nhw. Yr awyr agored yw eu hoff le i chwarae o hyd.

‘Mae Chwarae Cymru’n galw am well defnydd o fannau cyhoeddus – fel y gall pob plentyn ac arddegwr allu archwilio a chwarae yn eu cymdogaethau. Mae gan ddatblygwyr ac adeiladwyr tai ran hanfodol i’w chwarae wrth greu mannau cynhwysol a hygyrch lle gall pob plentyn chwarae a chwrdd â’u ffrindiau.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors