Archwiliwch
Mae BBC Plant mewn Angen, mewn partneriaeth â’r Gronfa #byddaf a Sefydliad Hunter, yn darparu cronfa gwerth £3 miliwn i helpu mudiadau i wreiddio gweithredu cymdeithasol ieuenctid ar draws y DU.
Bydd y gronfa hon yn helpu i feithrin hyder a sgiliau plant a phobl ifanc, gan eu grymuso i chwarae rhan weithredol ac arweiniol yn y gwaith o ddatblygu atebion i faterion sy’n effeithio ar eu bywydau a’u cymunedau. Bydd yn cefnogi mudiadau i gyflwyno cyfleoedd gweithredu cymdeithasol a grymuso ieuenctid i blant a phobl ifanc, er mwyn helpu i atal neu i oresgyn effeithiau’r anfanteision maen nhw’n eu hwynebu.
Mae’r cyllidwyr yn arbennig o awyddus i gyrraedd:
- Mudiadau sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anfanteision sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc
- Plant a phobl ifanc sydd â rhywfaint o brofiad o weithredu cymdeithasol ac sydd eisiau datblygu eu sgiliau a’r profiad i wneud mwy
- Plant a phobl ifanc sydd heb brofiad o waith gweithredu cymdeithasol o gwbl ond sydd eisiau dysgu mwy amdano.
Gall y Gronfa Gweithredu Cymdeithasol Ieuenctid gynnig hyd at £15,000 i fudiadau heb eu cofrestru a hyd at £50,000 i gyrff sydd wedi eu cofrestru.