Archwiliwch
Mae’r rhifyn newydd o Chwarae dros Gymru yn dathlu 25ain penblwydd Chwarae Cymru. Mae’n tynnu sylw at ddarnau diweddar o waith allweddol y mae Chwarae Cymru wedi bod yn rhan ohonynt. Mae’n ddathliad o’n gwaith cydweithredol wrth ymgyrchu dros hawl plant i chwarae.
Mae’r rhifyn 25 mlynedd o Chwarae Cymru yn cynnwys:
- Golygyddol gwadd gan ein Cadeirydd cyntaf, Margaret Jervis
- Dyma pam mae chwarae mor bwysig – ein ffilm newydd
- Yr hyn mae plant yn ei ddweud am chwarae yng Nghymru – ein hadroddiad ymchwil diweddaraf
- Chwarae a lles: adolygiad llenyddiaeth
- Prosiect Llysgenhadon Chwarae Cymunedol – y diweddariad terfynol
- Adolygiad Gweinidogol o Chwarae – y diweddaraf a’r argymhellion
- Chwarae’n parhau er gwaetha’r glaw – crynodeb o ddigwyddiadau Diwrnod Chwarae 2023
- Cymru yng Nglasgow – derbynwyr bwrsari IPA Cymru Wales sy’n rhannu eu profiadau
- Archarwyr yn Fforwm Gweithwyr Chwarae eleni!
- Y diweddaraf am ddatblygu’r gweithlu – trosglwyddo cymwysterau gwaith chwarae, chwarae dysgu a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru, dan y chwyddwydr…
- Cymuned chwareus – prosiect aros a chwarae ysgol.