Llyfrgell adnoddau
Adnoddau Chwarae Cymru
Mae ein casgliad o gyhoeddiadau’n cynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau. Mae’r adnoddau hyn hefyd yn cynnig canllawiau arfer da ar amrywiaeth o bynciau am ddarparu cyfleoedd i chwarae. Maent wedi eu hanelu at bawb sydd â diddordeb yn, neu sy’n gyfrifol am, chwarae plant.
Yn yr adran hon cewch hyd i’n hadnoddau i gyd. Maent yn cynnwys pecynnau cymorth, arweiniad, taflenni gwybodaeth, awgrymiadau anhygoel, a mwy.
‘Dyw pob adnodd heb gael ei ychwanegu hyd yma – os ydych chi’n edrych am gyhoeddiad gan Chwarae Cymru ac yn methu dod o hyd iddo yn fan hyn cofiwch gysylltu â ni.
Adnodd diweddaraf
Darllenwch ein pecyn cymorth newydd
Llyfrgell adnoddau | 04.12.2025
Datblygu darpariaeth chwarae a blynyddoedd cynnar mewn safleoedd Sipsiwn a TheithwyrPecyn cymorth ar gyfer rheini sy’n gweithio gyda phlant ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
Llyfrgell adnoddau
Pecyn cymorth | 01.11.2015
Defnyddio tiroedd ysgol ar gyfer chwarae’r tu allan i oriau addysgu
Mae’r pecyn hwn yn annog agwedd gydweithredol i agor tiroedd ysgol i blant lleol chwarae y tu allan i’r diwrnod ysgol.
Llyfrgell adnoddau | 15.03.2016
Pam gwneud amser i chwarae?
Taflen wybodaeth yn dangos pam fod chwarae mor bwysig, yn archwilio buddiannau darpariaeth chwarae wedi ei staffio i blant ac i’r gymuned ehangach.
Taflen wybodaeth | 01.10.2017
Mathau Chwarae
Taflen wybodaeth sy'n archwilio’r 16 math o chwarae ac yn cyflwyno cymariaethau cryno rhwng rhai ohonynt.
Taflen wybodaeth | 25.02.2019
Mae plant hŷn yn chwarae hefyd
Taflen wybodaeth sy’n archwilio chwarae plant hŷn (yn enwedig plant sydd ar ddechrau neu ar ganol eu glasoed – tua 11 i 16 oed), a sut i osgoi tybiaethau sy’n seiliedig ar oedran.
Briefing | 01.02.2020
Chwarae a rhywedd
Taflen wybodaeth yn archwilio’r gwahaniaethau rhywedd rhwng sut y bydd pob plentyn yn chwarae a sut y gallwn ni gefnogi plant i brofi’r cyfleoedd chwarae ehangaf yn ein lleoliadau.
Canllaw gwaith chwarae | 12.05.2020
Chwarae: iechyd a lles
Taflen wybodaeth am pam mae chwarae yn hanfodol i iechyd a lles plant, gan archwilio ffyrdd o gefnogi chwarae o ansawdd da.
Llyfrgell adnoddau | 12.06.2020
Pam dewis Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar waith (P3)?
Taflen wybodaeth am gymwysterau Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar waith (P³).
Taflen wybodaeth | 01.09.2020
Meddwl am rannau rhydd mewn ysgolion
Taflen wybodaeth i ymarferwyr yn y sector addysg am ddefnyddio deunyddiau chwarae rhannau rhydd.
Llyfrgell adnoddau | 12.11.2020
Digonolrwydd chwarae yng Nghymru
Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnig trosolwg cryno o’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a’r broses asesu y mae rhaid i awdurdodau lleol ei ymgymryd.
Llyfrgell adnoddau | 13.11.2020
Hybu gweithgarwch corfforol trwy chwarae’r tu allan mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar
Taflen wybodaeth wedi'i anelu at gefnogi ymarferwyr y blynyddoedd cynnar i ddarparu gweithgarwch corfforol trwy chwarae’r tu allan yn eu lleoliadau amrywiol.
Canllaw gwaith chwarae | 01.01.2021
Plentyndod, chwarae a’r Egwyddorion Gwaith Chwarae
Mae’r canllaw hwn wedi ei anelu at bobl sy’n gweithio mewn lleoliadau ble mae plant yn chwarae.
Canllaw gwaith chwarae | 01.03.2021
Ymarfer gwaith chwarae
Mae’r canllaw hwn wedi ei anelu at bobl sy’n gweithio mewn lleoliadau ble mae plant yn chwarae.