Digwyddiad arall
Deall gwaith chwarae – gweminar Chwarae Cymru
Trefnydd
Chwarae Cymru
Lleoliad
Ar-lein
Mae’r weminar hon, sy’n awr o hyd, yn cael ei chynnig i unrhyw un yng Nghymru sydd â diddordeb mewn hyfforddiant neu gymwysterau gwaith chwarae fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion, sy’n cael ei chynnal rhwng 9 a 15 Medi 2024.
Mae Cymru – Gwlad Lle Mae Cyfle i Chwarae, sef canllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar asesu a darparu cyfleoedd chwarae digonol, yn cydnabod pwysigrwydd gweithlu â’r sgiliau priodol o ran y rhai sy’n gweithio wyneb yn wyneb â phlant yn ogystal â’r rhai y mae eu gwaith yn effeithio ar y lleoedd y mae plant yn chwarae ynddyn nhw.
Bydd y weminar yn cynnig cyfle i:
- ddeall mwy am wybodaeth a sgiliau gwaith chwarae a’i bwysigrwydd i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant
- cael rhagflas o Dewch inni siarad am chwarae – ein cwrs hyfforddiant diweddaraf sydd wedi’i ardystio
- cael trosolwg o’r hyfforddiant a’r cymwysterau gwaith chwarae sydd ar gael yng Nghymru
- ystyried y ffordd orau o gael hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae ledled Cymru.
Mae’r weminar yn cyfuno cyflwyniadau byr, gwaith mewn grwpiau bach, trafodaethau grŵp cyfan a gweithgareddau a gemau cyfranogol, creadigol.
Dyddiadau ac amseroedd
Cynhelir y weminar dair gwaith:
- 10 Medi 2024 (10:00am – 11:00am) – WEDI ARCHEBU’N LLAWN
- 17 Medi 2024 (1:00pm – 2:00pm) – WEDI ARCHEBU’N LLAWN
- 24 Medi 2024 (6:00pm – 7:00pm)
Cwblhewch y ffurflen i archebu eich lle yn rhad ac am ddim: