Digwyddiad arall
Grŵp B Diogelu Canolraddol Plant a Phobl Ifanc
Dyddiad
21/11/2024
Amser
9:30am - 4:00pm
Pris (ddim yn aelod)
£98
Trefnydd
Plant yng Nghymru
Lleoliad
Ar-lein
Nod y cwrs hwn yw rhoi hyder i gyfranogwyr a gwybodaeth gyfredol hanfodol ar sut i ddiogelu plant a phobl ifanc yn eu hamgylchedd.
Nodau y cwrs:
- dysgu am y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau allweddol ar gyfer diogelu lles plant a phobl ifanc, gan gynnwys e-ddiogelwch
- deall rolau gwahanol asiantaethau sy’n ymwneud â diogelu lles plant a phobl ifanc
- deall arferion gwaith diogel sy’n hanfodol i gadw plant, pobl ifanc ac ymarferwyr yn ddiogel mewn lleoliad gwaith
- nodi nodweddion gwahanol fathau o gam-drin plant a sut i adnabod y rhain yn ymarferol
- gwybod sut i ymateb yn effeithiol i dystiolaeth neu bryderon bod plentyn neu berson ifanc wedi cael ei gam-drin, neu ei esgeuluso
- gallu disgrifio egwyddorion a ffiniau cyfrinachedd a phryd i rannu gwybodaeth
Pwy ddylai fynychu:
Mae’r cwrs wedi’i anelu at unrhyw un sy’n gweithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc mewn ystod eang o leoliadau gweithle a chymunedol.
Mae’r hyfforddiant hwn yn addas ar gyfer ymarferwyr sy’n rhan o Grŵp B fel y disgrifir yn y Safonau Hyfforddi, Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol, fodd bynnag gall ymarferwyr o Grŵp A fynychu hefyd os oes angen hyfforddiant diogelu mwy manwl.
Safonau Diogelu Cenedlaethol Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu.
Os ydych yn aelod o Plant yng Nghymru, ebostiwch Plant yng Nghymru i dderbyn eich cod gostyngiad o 10%.