Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Digwyddiad arall

Blynyddoedd Cynnar a Hawliau Plant

Dyddiad

19-03-2024

Amser

9:30am - 12:30pm

Pris (aelod)

£0

Pris (ddim yn aelod)

£0

Trefnydd

Plant yng Nghymru

Lleoliad

Ar-lein

Mae’r cwrs hanner diwrnod hwn wedi’i anelu at ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant dan 7 oed neu gyda’u teuluoedd mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae’r rhain yn cynnwys lleoliadau gofal plant, cymorth i deuluoedd, gwaith chwarae, gweithgareddau awyr agored a chelfyddydol.

Bydd mynychwyr yn cael cyfle i archwilio ystyr gwaith sy’n canolbwyntio ar y plentyn yn ymarferol. Bydd y sesiwn yn galluogi pobl i ddeall o ble mae hawliau plant yn dod, sut maen nhw’n effeithio ar wahanol feysydd gwaith, a’r prosesau polisi a chyfreithiol sy’n cefnogi gweithredu hawliau plant.

Nodau:

  • deall beth yw’r Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a sut mae’n cael ei weithredu yng Nghymru
  • cael trosolwg o gyd-destun a phrosesau gwleidyddol y blynyddoedd cynnar yng Nghymru
  • nodi’r ysgogwyr polisi a’r blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer y blynyddoedd cynnar
  • deall sut mae meysydd gwaith allweddol yn eich sefydliad yn ffitio i’r prif feysydd polisi sy’n ymwneud â’r blynyddoedd cynnar
  • deall sut mae llais plentyn yn cael ei glywed yn y blynyddoedd cynnar.

Ariennir y cwrs gan Lywodraeth Cymru.

Rhagor o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors