Digwyddiad arall
Hyfforddiant ar gyfer Arweinydd Dynodedig Diogelu
Dyddiad
04/05-10-2023
Amser
9:30am - 4:00pm
Pris (aelod)
£220
Pris (ddim yn aelod)
£198
Trefnydd
Plant yng Nghymru
Lleoliad
Ar-lein
Mae gan yr Arweinydd Dynodedig Diogelu rôl hanfodol i sicrhau bod mesurau diogelwch ar waith a bod camau effeithiol yn cael eu cymryd pan fydd pryderon am blentyn yn codi.
Bydd y cwrs deuddydd hwn o fudd i’r rheini sy’n gweithredu yn y rôl Arweinydd Dynodedig neu bydd yn cymryd y rôl fel dirprwy. Mae’n berthnasol i leoliadau amrywiol, megis ysgolion, gofal plant, gwasanaethau gwirfoddol a phreifat sy’n darparu gweithgareddau, dysgu a chefnogaeth i blant a theuluoedd.
Nodau:
- Deall pwrpas, pwysigrwydd a rôl yr Arweinydd Dynodedig a beth mae’n ei olygu yn eich lleoliad
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth ac arweiniad perthnasol ar ddiogelu plant a phobl ifanc yng nghyd-destun Cymru a’r DU
- Archwilio rolau partneriaid diogelu yn y cyd-destun amhwyllasant
- Deall y system statudol amddiffyn plant a disgwyliadau
- Archwilio y cysyniad ‘cam-drin ymddiriedaeth’ a bod yn effro i droseddau posib yn y sefydliad
- Deall sut mae gwerthoedd a chredoau yn effeithio ar ymatebion i ddiogelu
- Deall effaith emosiynol y gwaith
- Nodi mesurau diogelu hanfodol sydd eu hangen ar waith
- Deall asesu ac adrodd ar bryderon i’r gwasanaethau cymdeithasol
- Nodi rhwystrau ac ystyried atebion i rannu gwybodaeth
- Datblygu cadw cofnodion da a chyfrinachedd da
- Deall amrywiaeth a gwendidau ychwanegol i rai plant
- Cynnwys staff a gwirfoddolwyr yn eu cyfrifoldebau diogelu
- Cynllunio gweithredu ar gyfer datblygu rôl yr Arweinydd Dynodedig Diogelu.