Digwyddiad arall
Cyfres Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol (DARPL) yr Hydref 2023 i Uwch Arweinwyr
Dyddiad
18-09/11-12-2023
Pris (aelod)
Am ddim
Trefnydd
Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol (DARPL)
Lleoliad
Ar-lein
Mae’r gyfres hon o ddysgu proffesiynol yn cynnwys tair sesiwn sy’n dadansoddi gwrth-hiliaeth ac yn archwilio camau gweithredu y gellir eu cymryd ar lefel uwch strategol. Mae’r gyfres hon wedi’i chynllunio ar gyfer uwch arweinwyr a rheolwyr lleoliadau neu ddarpariaethau yn y sectorau blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae.
Bydd y sesiynau’n edrych ar ddiwylliant sefydliadol, effaith hiliaeth ar les a bywydau pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig eraill ac ar bolisïau a gweithdrefnau a allai effeithio’n andwyol ar y rhai o gefndiroedd nad ydynt yn Wyn.
Trwy archebu lle ar y digwyddiad hwn rydych chi’n ymrwymo i fynychu’r gyfres gyfan.
Dyddiadau ac amseroedd y gyfres:
- 18 Medi 2023, 9:30am – 11:00am
- 10 Tachwedd 2023, 1:00pm – 2.30pm
- 11 Rhagfyr 2023, 9.30am – 11:00am