Cym | Eng

Digwyddiad arall

Cynadleddau ansawdd AGC (CIW) (Digwyddiad Saesneg)

Dyddiad

26/11/2024

Amser

5:30pm-8:30pm

Pris (aelod)

Am ddim

Trefnydd

Arolygaeth Gofal Cymru

Lleoliad

Ar-lein dros Teams

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC / CIW) yn cynnal ei chynadleddau ansawdd cyntaf ar gyfer darparwyr gofal plant a chwarae.

Cynhelir cynadleddau eleni ar-lein ar y dyddiadau ac amseroedd canlynol drwy Microsoft Teams:

  • Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2024, 5:30pm – 8:30pm (digwyddiad Saesneg)
  • Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2024, 5:30pm – 8:30pm (digwyddiad Cymraeg)

Fel rhan o nod AGC i wneud mwy i gefnogi lleoliadau ar eu taith i wella’n barhaus, bydd yr arolygiaeth yn cynnal y cynadleddau ansawdd blynyddol hyn i rannu enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol ac i fwrw ati gyda’n gilydd i ymdrin ag unrhyw faterion cyffredin sy’n codi ledled Cymru.

Bydd y rhain yn wahanol i’n digwyddiadau ar-lein i ddarparwyr ddwywaith y flwyddyn a bydd ganddynt agenda ac ymdeimlad gwahanol.

Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal gyda’r nos, er mwyn galluogi mwy o ddarparwyr i fod yn bresennol.

Bydd dolenni i ymuno yn cael eu hanfon at ddarparwyr cofrestredig maes o law.

Dewis Iaith

Mae AGC am gynnig y profiad gorau posibl i’r rhai ohonoch sy’n dod i’r digwyddiadau. Er mwyn gwneud hyn, bydd yr arolygiaeth yn cynnal digwyddiadau ar wahân ar gyfer pob iaith a bydd yn ceisio adborth ar ôl hynny i wybod sut brofiad cafodd fynychwyr.

Os oes gennych ragor o gwestiynau am y digwyddiadau hyn, cysylltwch â thîm cyfathrebu AGC.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors