Digwyddiad arall
Hawliau Plant a Chyfranogiad ar gyfer Pobl Ifanc 11-25 oed
Dyddiad
15-03-2024
Amser
9:30am - 3:30pm
Pris (aelod)
£0
Pris (ddim yn aelod)
£0
Trefnydd
Plant yng Nghymru
Lleoliad
Ar-lein
Nod y cwrs undydd hwn yw rhoi sylfaen gadarn i gyfranogwyr mewn theori ac ymarfer, gan gynnig technegau ymarferol i gynyddu cyfranogiad pobl ifanc yn eu waith. Mae hyn yn cynnwys cyfranogiad gyda phobl ifanc unigol ac ymestyn eu hymglymiad mewn gwneud penderfyniadau sefydliadol.
Amcanion dysgu:
- ennill dealltwriaeth o hawliau plant a phobl ifanc yn y cyd-destun Cymreig
- archwilio beth mae ‘cyfranogiad’ yn ei olygu i bobl ifanc o wahanol oedrannau
- meddu ar ddealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau sy’n cefnogi gwaith sy’n canolbwyntio ar bobl ifanc
- ennill sgiliau ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc
- archwilio’r rhwystrau i gyfranogiad ac atebion posibl
- deall sut i sefydlu a rhedeg fforwm ieuenctid
- datblygu cynllun gweithredu unigol i chi symud y gwaith hwn yn ei flaen.
Mae’r hyfforddiant yn annog cymysgedd eang o bobl o wahanol sectorau a rhanbarthau i ddod at ei gilydd yn yr un sesiwn i rannu profiadau a dysgu gan eraill.
Ariennir y cwrs gan Lywodraeth Cymru.