Cym | Eng

Newyddion

Ymchwil: profiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n gweithio yn y sector gofal plant a gwaith chwarae

Date

05.11.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu M·E·L Research i gynnal ymchwil ansoddol sy’n archwilio profiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n gweithio yn y sector gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru. Nod yr ymchwil yw helpu i lunio’r sector mewn ffordd sy’n sicrhau ei fod yn diwallu anghenion holl blant Cymru ac yn darparu amgylchedd croesawgar a chefnogol i’w weithwyr i gyd.

Mae’r ymchwil yn rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ArWAP) Llywodraeth Cymru. Nod y cynllun yw gwneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ac mae’n cydnabod eu bod yn cael eu tan-gynrychioli mewn nifer o sectorau, gan gynnwys y sector gofal plant a gwaith chwarae.

Mae’r ymchwilwyr yn awyddus i siarad gyda phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sy’n gweithio yn y sector neu sy’n ystyried gweithio ynddo, er mwyn deall eu profiadau, gan gynnwys eu barn am eu hamgylchedd gwaith ac unrhyw heriau y gallent eu hwynebu. Bydd cymryd rhan yn cynnwys:

  • sgwrs 45 munud (o bell neu wyneb yn wyneb) gydag un o’r ymchwilwyr, a gynhelir ar amser sy’n addas i’r cyfranogwr, naill ai yn Gymraeg neu’n Saesneg
  • gweithgaredd cymunedol byr ar-lein dros dri diwrnod lle gall cyfranogwyr rannu rhagor o feddyliau drwy ysgrifennu, sain, fideo neu luniau (10-20 munud y dydd).

Mae M·E·L Research yn cynnig taleb siopa gwerth £70 i bob cyfranogwr fel diolch am gymryd rhan. Mae’r holl gyfranogiad yn wirfoddol ac yn gyfrinachol.

Am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan, cysylltwch â M·E·L Research erbyn 30 Tachwedd 2025.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors